P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan C.A.R.I.A.D., ar ôl casglu 11,195 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu cŵn bach
gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti
masnachol.
Mae gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon am
elw wedi'i enwi'n 'Gyfraith Lucy' ac fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddar
yn Lloegr. Mae cefnogaeth enfawr gan y cyhoedd, y cyfryngau ac ar
draws y pleidiau i Gyfraith Lucy, ac rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfraith
Lucy yng Nghymru fel mater o frys.
Mae tynnu cŵn bach oddi ar eu mamau i'w gwerthu yn aml yn creu
cŵn sâl, trist, wedi'u trawmateiddio, sy'n camweithredu.
Dylid gallu gweld cŵn bach gyda'u mam yn y lle y cawsant eu
geni. Mae eu cludo i le gwahanol ar gyfer eu gwerthu yn niweidiol o
ran eu lles. Nid yw rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol
gan drydydd partïon yn effeithiol i atal niwed iddynt, ac
felly mae gwaharddiad yn angenrheidiol er lles cŵn bach.
Caiff cŵn bridio a gedwir mewn ffermydd cŵn bach eu
cuddio o olwg y cyhoedd ac yn aml maent yn dioddef trawma corfforol
a seicolegol am flynyddoedd. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach
yn fasnachol gan drydydd partïon yn aneffeithiol o ran atal
niwed i gŵn bridio ac mae gwaharddiad ar drydydd partïon
ar werthu cŵn felly yn angenrheidiol er eu lles.
Byddai gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon
yn cael effaith gadarnhaol ar gŵn bridio, ac yn sicrhau eu bod
yn weladwy, a byddai'n galluogi'r cyhoedd i weithredu ar gyngor
arfer gorau i weld ci bach gyda'r fam ble y'i ganwyd.
Hefyd, ar hyn o bryd mae rhai pobl sy'n ffermio cŵn bach heb
drwydded, a smyglwyr cŵn bach, yn defnyddio trydydd
partïon trwyddedig i werthu eu cŵn bach, ac mae hyn yn ei
gwneud yn bosibl iddynt weithredu heb gael eu dal, a heb i
awdurdodau lleol fonitro iechyd a lles cŵn bridio a chŵn
bach. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan
drydydd parti yn aneffeithiol wrth atal ffermio cŵn bach yn
anghyfreithlon a smyglwyr cŵn bach, ac felly mae angen
gwaharddiad ar drydydd partion o ran gwerthu cŵn, i ddiogelu
cŵn, cŵn bach a'r cyhoedd, yn ogystal ag i atal
gweithgarwch troseddol.
Nid oes dim manteision lles o werthu cŵn
bach drwy werthwyr masnachol. Mae'r arfer hwn dim ond yn golygu bod
cŵn bridio yn cael eu cadw o lygad y cyhoedd. Yn ogystal
â phryderon am les anifeiliaid, mae gwerthiant gan drydydd
partïon yn creu risgiau ychwanegol i iechyd a diogelwch y
cyhoedd.
Mae gwerthiant cŵn bach yn uniongyrchol gan fridwyr neu
ganolfannau achub cŵn adnabyddus yn amddiffyn pob parti, yn
sgîl rhagor o dryloywder ac atebolrwydd. Gallai gwaharddiad
ar fargeinio am gŵn bach er elw godi safonau iechyd a lles ar
gyfer cŵn bridio a chŵn bach, yn ogystal â darparu
diogelwch y mae mawr ei angen ar gyfer y cyhoedd.
Mae gweithredu Cyfraith Lucy yng Nghymru hefyd yn hanfodol i fynd
i'r afael â'r difrod a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i
gael ei gydnabod fel canolbwynt o ran ffermio cŵn bach yn y
Deyrnas Unedig.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pen-y-bont ar Ogwr
· Gorllewin De Cymru